Hogia Llanbobman, Catrin ag Elfed - Aros Gyda Mi
Автор: Noson Lawen
Загружено: 2013-11-05
Просмотров: 20186
Mae eglurhad diddorol am enw'r parti. Mae 'na hen gân sy'n rhestru 46 o lannau ym Môn, ac mae'r Hogia'n dod o wahanol lannau ar draws yr ynys.
Ffurfiwyd Hogia Llanbobman yn 2010 wrth i rai o gyn aelodau Ffermwyr Ifanc ac Aelwyd Yr Ynys ddod at ei gilydd wedi iddynt fynd yn rhyw 'hen' i gystadlu gyda'r mudiadau hynny!
Daw Catrin o Lanbedrgoch yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw ger Gaerwen. Mae hi'n wyneb cyfarwydd fel perfformwraig a bu'n fuddugol yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Yr Urdd Bryn Terfel yn 2009. Mae hi hefyd yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru ar raglen Dafydd a Caryl.
Mae Elfed yn gyn-enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2009, ac fe ryddhaodd CD yn 2011 yn dwyn y teitl 'Llanw a Thrai'. Daeth Catrin ac Elfed i adnabod ei gilydd yng Ngŵyl Ban Geltaidd 2010 a phenderfynu rhoi tro arni fel deuawd gan gystadlu am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerdd Dant Glannau Menai -- ac maent yn enillwyr cyson fyth ers hynny.
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео mp4
-
Информация по загрузке: