PÊL-DROED BYW: Y Seintiau Newydd v Caernarfon | Cymru Premier JD | Sylwebaeth yn y Gymraeg
Автор: Sgorio
Загружено: 2025-11-28
Просмотров: 1273
Pêl-droed Cymru Premier JD byw rhwng Y Seintiau Newydd a Chaernarfon. Yn fyw o Neuadd y Parc, nos Wener, 28 Tachwedd am 7.30 - cic gyntaf am 7.45.
Rhagolwg:
Mae breuddwyd y trebl ar ben i’r Seintiau Newydd ar ôl colli o 2-1 yn erbyn Met Caerdydd yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru nos Wener diwethaf.
Eleni yw’r tro cyntaf ers 2007 i’r Seintiau syrthio allan o’r gystadleuaeth mor gynnar â hyn, ond mae’r dwbl dal ar y cardiau gan fod criw Craig Harrison naw pwynt yn glir ar frig y gynghrair ac wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.
Yn wahanol i’r Seintiau fe lwyddodd Caernarfon i ennill eu gêm gwpan gyda’r Cofis yn trechu Penrhyncoch o 4-0 i gamu i’r bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers pedair blynedd.
Dyw Caernarfon m’ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf a daeth y golled honno yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG (YSN 3-0 Cfon).
Mae’r Seintiau hefyd wedi curo’r Cofis yn y gynghrair yn gynharach y tymor yma, ac felly wedi ennill 16 o’u 17 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon.
#LiveFootball #YSeintiauNewydd #TheNewSaints #CaernarfonTown
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео mp4
-
Информация по загрузке: